Lleoliad:
Committee Room 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Medi 2020
Amser:
09.46 -
12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6485
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Russell George AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Hefin David AS Vikki Howells AS Helen Mary Jones AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Amy Bainton, FSB Wales Leighton Jenkins, CBI Cymru Peter Hughes, Unite Cymru Mike Payne, GMB Shavanah Taj, TUC Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Ben Stokes (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2 Covid-19: Adfer - Sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau
2.1 Atebodd Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Polisi, Cangen Cymru o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain ac Amy Bainton, Cynghorydd Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd Leighton Jenkins i ddarparu nodyn i'r pwyllgor ynghylch cymorth economaidd, diogelwch yn y gweithle a'r galluogwr economaidd.
3 Covid-19: Adfer - Undebau Llafur
3.1 Atebodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol, UNITE Cymru, Mike Payne, Uwch Drefnwr Cymru a De Orllewin, Undeb GMB a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol, Cyngres Undebau Llafur Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
5 Preifat
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn